Duw y duwiau, Arglwydd nef, A gaed mewn gwisg o gnawd; Mae ynddo bob rhinwedol ddawn, Mae'n addas iawn i'r tlawd; Mae'n llon'd ei swyddau ar ein rhan, A'i enwau peraidd, er eu maint, O'i Berson mawr fe leinw byth Ysbrydoedd yr holl saint. Mae'n wyn a gwridog, enwog Wr, A doeth Iachawdwr da; Y rhai sy'n flin gan bwys eu llwyth, Ei hun fe'u hesmwytha: - A ai di, enaid, ar ei ol? Mae'n holl-ddigonol nerthol Naf; Mae'n ddigon cryf, - O brysia, cred, Nac oeda, - dywed, "Af." Pan elych trwy'r Iorddonen ddu, Cei lechu yn Ei law, Fe'th ddwg di, enaid llesg, i'r lan I'w nefol drigfan draw; Cei ganu'n llafar, gyda'r llu Sy'n llawenychu yn eu Naf, A âi i'w ganlyn, doed a ddel? O d'wed yn uchel "Af."1 : Casgliad o Hymnau (Calfinaidd) 1859 2-3: Crynhodeb o Hymnau Cristnogol (Daniel Jones) 1845 [Mesur: 8686.8886] gwelir: Crist ydyw'r Bugail mawr di-ball Mae'n wyn a gwridog enwog ŵr |
God of the gods, Lord of heaven, Found in clothing of flesh; In him is every virtuous gift, He is very suitable for the poor; He fulfills his offices on our behalf, And his sweet names, despite their vastness, From his great Person shall fill forever The Spirits of all the saints. He is white and ruddy, a famous Man, And wise, good Salvation; Those who are wearied by the weight of their load, He himself will relieve: - Wilt thou go, soul, after him? He is an all-sufficient, mighty Master; He is sufficiently strong, - O hurry, believe! Do not delay, - say, "I will go." When thou goest through the black Jordan, Thou wilt hide in His hand, He will bring thee, feeble soul, up To his heavenly dwelling yonder; Thou wilt get to sing vocally, with the host Who are rejoicing in their Master, And wilt thou go to follow them, come what may? O say loudly "I will go."tr. 2016 Richard B Gillion |
|